Ffestiniog Golf Club Clwb Golff Ffestiniog
Hanes

Mae hanes y Clwb yn ymestyn dros ddau gyfnod arbennig - o 1893 hyd 1935 ac o 1967 hyd heddiw. Yn 1935 daeth Clwb Golff cyntaf Ffestiniog i ben oherwydd diffyg cyfleusterau cludiant yn ôl a blaen o'r cwrs a dirwasgiad cyffredinol y Tridegau a arweiniodd yn y pen draw at fethiant y Clwb.


Ar 30 Ionawr 1897 mae'r cofnodion yn dangos bod Comisiynwyr Refeniw Coedwigoedd, Fforestydd a Thir wedi rhoi caniatâd ffurfiol i drwydded ar gyfer Clwb Golff Ffestiniog.

Pan gaeodd y clwb ei ddrysau yn 1935 dychwelodd y clwb i'w rôl hanesyddol o fan hamddena cyhoeddus a lle pori i ddefaid mynydd pump o ffermwyr.

Mewn cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Ffestiniog ar 13 Medi 1967, i brofi teimladau'r gymuned leol ynglŷn â'r angen am gwrs golff. Cafwyd ymateb da a sefydlwyd pwyllgor llywio i ailagor yr hen gwrs golff.

Mae'r Clwb yn dal i ffynnu heddiw ac mae'n gwbl ddibynnol ar waith gwirfoddol yr aelodau.

Mae hanes cyflawn o'r clwb ar gael ~ 'The First Hundred Years Ffestiniog Golf History' golygwyd gan Glyn Eden, cyhoeddwyd yn 1993.

Founded 1893
 
Dylunwyd gan Delwedd
Argraffu Marciwch Ni  http://www.ffestinioggolf.org