Ffestiniog Golf Club Clwb Golff Ffestiniog
Cystadlaethau

Cystadlaethau Clwb 1 Ebrill 2010– 31 Mawrth 2011

Ni dderbynnir unrhyw geisiadau i gymryd rhan mewn cystadlaethau clwb os nad yw’r aelod wedi talu ei danysgrifiad oedd yn ddyledus ar 1 Ebrill 2010.

1. Rhaid dilyn y safonau ymddygiad sy’n gysylltiedig â golffio bob amser ar y cwrs ac yn y clwb.

2.Gofynnir yn garedig i chi drwsio tywyrch a marciau ar y maes.

3. Atgoffir aelodau bod rhaid i ymwelwyr a gwesteion dalu tâl chwarae undydd cyn chwarae.


4. Bydd y ti cyntaf ar gau yn ystod yr amseroedd a nodir isod:

*Cystadlaethau dynion dros 18 twll 1.00 p.m. hyd 3.00 p.m.
Nosweithiau Mercher dros 9 twll i ddynion 5.00 p.m. hyd 6.30 p.m.
Cystadlaethau Sadwrn i Ferched 9.00 a.m. hyd 10.00 a.m.
Cystadlaethau Sul i Ferched 1.00 p.m. hyd 2.00 p.m.
Nosweithiau Llun i ferched 5.30 p.m. hyd 6.30 p.m.
Cystadlaethau cymysg dros 14 twll 1.00 p.m. hyd 2.00 p.m.
Cystadlaethau ieuenctid nosweithiau Mawrth 4.30 p.m. hyd 6.30 p.m.
Cystadlaethau ieuenctid – dyddiadau i’w trefnu yn ystod gwyliau ysgol  


*Gall unrhyw un sy’n dymuno chwarae yn y bore wneud hynny trwy roi gwybod ymlaen llaw i’r ysgrifennydd cystadlaethau a chyda’i ganiatâd, ond rhaid iddo hefyd fod yn gyfrifol am drefnu partneriaid i chwarae.

5. Rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth yn unig y caniateir newid safle’r bêl ar y tir glas am safle mwy ffafriol.

6. Os bydd gêm gyfartal mewn unrhyw gystadleuaeth, penderfynir ar y buddugol fel a ganlyn:-

  • cystadlaethau 18 twll – sgôr y 9 twll diwethaf
  • cystadlaethau 9 twll – sgôr y 6 twll diwethaf

7. Nodir unrhyw newid i’r rhaglen hon ar gyfer y tymor ar yr hysbysfwrdd.

Founded 1893
 
Dylunwyd gan Delwedd
Argraffu Marciwch Ni  http://www.ffestinioggolf.org